35,984,383 rhifau cofrestru sydd ar gael ar hyn o bryd i'w prynu ar-lein
telerau ac amodau
Nid y rhain yw telerau ac amodau gwerthu
Rydych yn cytuno i ddefnyddio'r safle hwn at ddibenion cyfreithlon yn unig, ac mewn ffordd nad yw'n amharu nac yn cyfyngu ar ddefnydd neu fwynhad unrhyw drydydd parti o'r safle. Mae cyfyngiadau ac amhariadau o'r fath yn cynnwys, heb gyfyngiad, ymddygiad sy'n anghyfreithlon neu a all aflonyddu neu achosi trallod neu anghyfleustra i unrhyw berson, a throsglwyddo cynnwys masweddus neu dramgwyddus neu amharu ar lif deialog arferol y safle.
Drwy ddefnyddio'r Safle hwn rhoddir hawl i'ch porwr wneud un copi o'r deunyddiau sydd i'w gweld at ddibenion storio dros dro (caching) yn unig. Mae darllen, argraffu neu lwytho unrhyw gynnwys, graffig, ffurflen neu ddogfen o'r Safle yn rhoi trwydded gyfyngedig, ddi-ecsliwsif i chi, a chi'n unig, i'w defnyddio at eich defnydd personol chi ac nid oes hawl gennych i atgynhyrchu, dosbarthu, aseinio, is-drwyddedu, gwerthu, paratoi gwaith tarddiadol na defnyddio'r cynnwys at unrhyw ddefnydd arall. Ni ellir atgynhyrchu unrhyw ran o'r cynnwys, y ffurflen neu'r dogfennau mewn unrhyw ffordd na'u rhoi mewn system adalw gwybodaeth, boed honno'n system electronig neu beirianyddol, heblaw ar gyfer defnydd personol, ac ni ellir eu defnyddio i'w hailwerthu neu eu hailddosbarthu.
Ni chaniateir defnyddio system cloddio data, robotiaid neu offerynnau tebyg ar gyfer casglu a chodi data ar unrhyw gyfrif.
Er y gwna DVLA pob ymdrech i sicrhau bod data'r safle hwn yn gywir mewn perthynas â'r rhifau cofrestru y rhestrir eu bod ar gael drwy ei fusnes gwerthu dros y ffôn, ni all warantu statws nac argaeledd y rhifau cofrestru hynny. Ni chaiff y safle hwn mo'i ddiweddaru mewn amser real a dylai ymholwyr / darpar brynwyr gadarnhau bod rhifau cofrestru o'r fath ar gael drwy ei fusnes gwerthu dros y ffôn. Ni fydd DVLA yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw hawliad neu weithred a all godi o ganlyniad i benderfyniadau, boed hwy'n rhai busnes neu breifat, a wneir ynghylch unrhyw rifau cofrestru sydd ar gael, neu fel arall, o ganlyniad i chwilio drwy ddefnyddio'r safle hwn.
