35,984,383 rhifau cofrestru sydd ar gael ar hyn o bryd i'w prynu ar-lein
polisi preifatrwydd
Eich preifatrwydd
Mae'r dudalen hon yn esbonio ein polisi preifatrwydd a sut y byddwn yn defnyddio ac yn diogelu unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei rhoi amdanoch eich hun wrth ymweld â'r wefan hon.
Deddf Diogelu Data
O dan y Ddeddf Diogelu Data, mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i ddiogelu unrhyw wybodaeth y byddwn yn ei chasglu gennych. Rydym yn defnyddio'r dechnoleg a'r meddalwedd amgryptio diweddaraf i ddiogelu eich data, ac yn glynu wrth safonau diogelwch llym i rwystro defnydd ohono heb awdurdod.
Pa wybodaeth ydyn ni'n ei chasglu?
Rydym yn casglu tri math gwahanol o wybodaeth gan ymwelwyr â dvlaregistrations.co.uk: adborth (drwy ymwelwyr yn anfon negeseuon e-bost atom), atgyfeiriadau i'r safle (drwy anfon e-bost at ffrind, ac ati) a gwybodaeth am ddefnyddio'r safle, drwy ddefnyddio briwsion a thechnegau tagio tudalennau, gan gynnwys JavaScript.
Adborth
Rydym yn croesawu eich adborth.
Pe baech chi'n anfon neges e-bost atom yn gofyn am gyngor neu wybodaeth nad ydym yn gallu eu rhoi i chi, gallem drosglwyddo eich neges i adran fwy priodol o fewn y llywodraeth, iddynt hwy eich ateb. Os ydyn ni'n gwneud hyn, fe anfonwn neges e-bost atoch yn dweud beth rydyn ni wedi'i wneud.
Unwaith y byddwn wedi'ch ateb, byddwn yn cadw cofnod o'ch neges am ddau fis, ar y mwyaf, at ddibenion cyfeirio ac archwilio, ac ar ôl hynny fe wnawn ei dileu.
Gwybodaeth am ddefnyddio'r safle
Briwsion
Tagio tudalennau
Rydym yn defnyddio JavaScript i grynhoi a dadansoddi patrwm defnydd cwsmeriaid ar y parth dvlaregistrations.co.uk. Mae hyn yn rhoi data i ni am y ffordd y byddwch yn defnyddio'r wefan. Rydym yn defnyddio'r wybodaeth hon i newid golwg y wefan a'r wybodaeth sydd ynddi. Nid yw hyn yn casglu unrhyw wybodaeth bersonol am ddefnyddwyr na gwybodaeth a allai ddatgelu pwy ydyn nhw.
Weithiau, byddwn yn tagio tudalennau ar y wefan hon yn ystod ymgyrchoedd hyrwyddo. Mae'r tagiau hyn yn ein galluogi i ganfod pa hysbysebion sy'n llwyddo i ddenu defnyddwyr at ein safle(oedd) rhyngrwyd. Drwy ddefnyddio'r dechnoleg hon, mae'r wybodaeth a gasglwn ac a rannwn yn wybodaeth ddienw ac nid yw'n cynnwys manylion personol.
Gallwch ddiffodd JavaScript ar eich cyfrifiadur. Os hoffech chi gael cyngor am sut i ddiffodd JavaScript, cysylltwch â ni, gan roi manylion am y math o borwr yr ydych yn ei ddefnyddio, ac fe wnawn ein gorau glas i'ch helpu. Gallai diffodd JavaScript effeithio ar eich gallu i ddefnyddio rhai o nodweddion y wefan.
Beth sy'n digwydd pan fydda i'n dilyn dolen at safle arall?
Mae dvlaregistrations.co.uk yn cynnwys dolenni at wefannau eraill, sy'n perthyn i adrannau'r llywodraeth a sefydliadau eraill. Dim ond i'n safle ni y mae'r polisi preifatrwydd hwn yn berthnasol, felly dylech fod yn ymwybodol o hynny bob tro y byddwch yn symud i safle arall. Darllenwch ddatganiad preifatrwydd unrhyw safle sy'n casglu gwybodaeth bersonol amdanoch chi.
Ni fyddwn yn trosglwyddo unrhyw wybodaeth bersonol y byddwch wedi ei rhoi i ni i unrhyw safle arall.
Beth sy'n digwydd pan fyddaf yn mynd i safle dvlaregistrations.co.uk trwy safle arall?
Pan gewch eich cyfeirio at safle dvlaregistrations.co.uk o safle arall (boed honno'n safle trydydd parti neu'n safle llywodraeth) gallem dderbyn gwybodaeth bersonol sy'n ymwneud â chi gan y safle(oedd) arall(eraill). Dylech ddarllen y polisïau preifatrwydd sy'n berthnasol i safleoedd o'r fath, gan y bydd y rhain yn llywio'r ffordd y defnyddir unrhyw wybodaeth bersonol a roddwch wrth fynd i safle o'r fath ac a roddir i dvlaregistrations.co.uk.
Mynediad at eich gwybodaeth a chysylltu â dvlaregistrations.co.uk
Os byddwch chi'n dymuno gweld cofnod unrhyw ohebiaeth y byddwch wedi'i hanfon atom, neu os oes gennych chi ymholiad neu gwyn ynghylch y polisi preifatrwydd hwn neu am y safle, fe allwch chi gysylltu â ni drwy e-bost.
Newidiadau i'r polisi preifatrwydd hwn
Os bydd y polisi preifatrwydd hwn yn newid mewn unrhyw ffordd, byddwn yn cynnwys fersiwn diwygiedig ar y dudalen hon. Drwy gadw golwg ar y dudalen hon yn rheolaidd, bydd modd i chi wybod bob amser pa wybodaeth y byddwn yn ei chasglu, sut y byddwn yn ei defnyddio ac o dan ba amgylchiadau, os o gwbl, y byddwn ni'n ei rhannu gyda phobl eraill.
